Cyfrif gyrwyr a cherbydau: creu cyfrif neu fewngofnodi
Bydd arnoch angen Cyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA i gadw fersiwn ddigidol o’ch trwydded yrru ar eich ffôn.
Mae creu cyfrif yn ffordd newydd haws o drafod gyda DVLA.
Gallwch:
- adnewyddu eich trwydded yrru gyda ffotograff newydd
- gweld eich cofnod gyrru, er enghraifft cerbydau y gallwch eu gyrru
- gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
- ychwanegu a gweld manylion eich cerbydau - gan gynnwys pan fydd y MOT yn dod i ben
- gwirio’r cyfraddau treth ar gyfer eich cerbydau
- sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy e-bost a neges destun - os ydych yn talu am dreth bob 6 neu 12 mis
- optio allan o nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy’r post